Esther 5:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar y trydydd dydd, Esther a ymwisgodd mewn brenhinol wisgoedd, ac a safodd yng nghyntedd tŷ y brenin o'r tu mewn, ar gyfer tŷ y brenin: a'r brenin oedd yn eistedd ar ei deyrngadair yn y brenhindy gyferbyn â drws y tŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y trydydd diwrnod o'i hympryd, dyma Esther yn gwisgo ei dillad brenhinol, a mynd i gyntedd mewnol y palas tu allan i neuadd y brenin. Roedd y brenin yno, yn eistedd ar ei orsedd gyferbyn â'r drws.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y trydydd dydd, rhoddodd Esther ei gwisg frenhinol amdani a sefyll yng nghyntedd mewnol y palas gyferbyn ag ystafell y brenin. Yr oedd y brenin yn eistedd ar ei orsedd frenhinol yn y palas gyferbyn 'r fynedfa.