Esther 5:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth, ac amldra ei feibion, a'r hyn oll y mawrhasai y brenin ef ynddynt, ac fel y dyrchafasai y brenin ef goruwch y tywysogion a gweision y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n dechrau brolio am ei gyfoeth mawr, y nifer o feibion oedd ganddo, a'r ffaith fod y brenin wedi ei anrhydeddu e a'i osod e'n uwch na'r swyddogion eraill i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac adroddodd wrthynt am ei olud mawr, am nifer ei feibion, ac am y modd y dyrchafodd y brenin ef trwy ei osod uwchlaw'r tywysogion a'r gweision.