Esther 5:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Haman hefyd, Ni wahoddodd Esther y frenhines neb gyda'r brenin i'r wledd a wnaethai hi, ond myfi; ac yfory hefyd y'm gwahoddwyd ati hi gyda'r brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac aeth ymlaen i ddweud, “A ces wahoddiad gan y Frenhines Esther i fynd gyda'r brenin i'r wledd roedd hi wedi ei pharatoi. Fi oedd yr unig un! A dw i wedi cael gwahoddiad i fynd yn ôl gyda'r brenin eto fory.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ychwanegodd, "Ni wahoddodd y Frenhines Esther neb ond myfi i fynd gyda'r brenin i'r wledd a wnaeth; ac fe'm gwahoddodd i fynd ati yfory eto gyda'r brenin.