Esther 5:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Seres ei wraig, a'i holl garedigion wrtho, Paratoer pren o ddeg cufydd a deugain o uchder, a'r bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno; yna dos gyda'r brenin i'r wledd yn llawen. A da oedd y peth gerbron Haman, am hynny efe a baratôdd y crocbren.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'i wraig a'i ffrindiau i gyd yn dweud wrtho, “Adeilada grocbren anferth, dau ddeg pum metr o uchder. Yna bore fory, dos i ddweud wrth y brenin am grogi Mordecai arno. Wedyn cei fynd i'r cinio gyda'r brenin, a mwynhau dy hun.” Roedd Haman yn meddwl fod hynny'n syniad gwych. A dyma fe'n trefnu i'r crocbren gael ei adeiladu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Seres ei wraig a phob un o'i gyfeillion wrtho, "Gwneler crocbren hanner can cufydd o uchder, ac yn y bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno. Yna dos yn llawen i'r wledd gyda'r brenin." Yr oedd hyn wrth fodd Haman, ac fe wnaeth y crocbren.