Esther 5:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd y brenin Esther y frenhines yn sefyll yn y cyntedd, hi a gafodd ffafr yn ei olwg ef: a'r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur oedd yn ei law ef tuag at Esther; ac Esther a nesaodd, ac a gyffyrddodd â phen y deyrnwialen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd fod y Frenhines Esther yn sefyll yn y cyntedd tu allan, roedd e wrth ei fodd. Dyma fe'n estyn y deyrnwialen aur oedd yn ei law at Esther, a dyma hithau yn mynd ato ac yn cyffwrdd blaen y deyrnwialen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y brenin y Frenhines Esther yn sefyll yn y cyntedd, fe enillodd hi ei ffafr, ac estynnodd ati'r deyrnwialen aur oedd yn ei law; daeth hithau yn nes a chyffwrdd blaen y deyrnwialen.