Esther 5:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y brenin a ddywedodd wrthi, Beth a fynni di, y frenhines Esther? a pha beth yw dy ddeisyfiad? hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe a'i rhoddir i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r brenin yn gofyn iddi, “Y Frenhines Esther, beth alla i wneud i ti i? Beth wyt ti eisiau? Dw i'n fodlon rhoi hyd at hanner y deyrnas i ti!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd y brenin wrthi, "Beth sy'n bod, Frenhines Esther? Beth bynnag a geisi, hyd hanner fy nheyrnas, fe'i cei."