Esther 5:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O chefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac o rhyglydda bodd i'r brenin roddi fy nymuniad, a gwneuthur fy neisyfiad; deled y brenin a Haman i'r wledd a arlwywyf iddynt, ac yfory y gwnaf yn ôl gair y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydw i wedi plesio'r brenin a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, baswn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod eto fory i wledd arall dw i wedi ei pharatoi. Gwna i ddweud wrth y brenin beth dw i eisiau bryd hynny.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
os cefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac os gwl ef yn dda roi fy neisyfiad a gwneud fy nymuniad, bydded i'r brenin a Haman ddod i'r wledd yr wyf fi am ei pharatoi iddynt; yna yfory gwnaf fel y mae'r brenin yn dweud."