Esther 5:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Haman a aeth allan y dwthwn hwnnw yn llawen, ac yn hyfryd ei galon: ond pan welodd Haman Mordecai ym mhorth y brenin, na chyfodasai efe, ac na syflasai erddo ef, Haman a gyflawnwyd o ddicllonedd yn erbyn Mordecai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Haman i ffwrdd y diwrnod hwnnw yn teimlo'n rêl boi. Ond yna dyma fe'n gweld Mordecai yn y llys brenhinol yn gwrthod codi iddo na dangos parch ato. Roedd Haman wedi gwylltio'n lân. Roedd e'n berwi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y diwrnod hwnnw aeth Haman allan yn llawen a hapus. Ond pan welodd ef Mordecai ym mhorth y brenin, ac yntau'n gwrthod codi na dangos parch tuag ato, gwylltiodd yn enbyd ag ef;