Esther 6:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y brenin a ddywedodd wrth Haman, Brysia, cymer y wisg a'r march, fel y lleferaist, a gwna felly i Mordecai yr Iddew, yr hwn sydd yn eistedd ym mhorth y brenin: na ad heb wneuthur ddim o'r hyn oll a leferaist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Haman, “Iawn, dos ar frys. Cymer di'r fantell a'r ceffyl, a gwna hynny i Mordecai yr Iddew sy'n eistedd yn y llys brenhinol. Gwna bopeth yn union fel gwnest ti ddisgrifio.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd y brenin wrth Haman, "Dos ar frys i gael y wisg a'r ceffyl fel y dywedaist, a gwna hyn i Mordecai yr Iddew, sy'n eistedd ym mhorth y brenin. Gofala wneud popeth a ddywedaist."