Esther 6:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Haman a gymerth y wisg a'r march, ac a wisgodd am Mordecai, ac a wnaeth hefyd iddo farchogaeth trwy heol y ddinas, ac a gyhoeddodd o'i flaen ef, Fel hyn y gwneir i'r gŵr y mae y brenin yn mynnu ei anrhydeddu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Haman yn cymryd y fantell a'r ceffyl ac yn arwisgo Mordecai. Wedyn dyma fe'n ei arwain ar y march drwy ganol y ddinas, yn cyhoeddi o'i flaen, “Dyma sy'n cael ei wneud i'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly cymerodd Haman y wisg a'r ceffyl; gwisgodd Mordecai a'i arwain ar gefn y ceffyl trwy sgwr y ddinas, a chyhoeddi o'i flaen: "Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu."