Esther 6:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Haman a adroddodd i Seres ei wraig, ac i'w holl garedigion, yr hyn oll a ddigwyddasai iddo. Yna ei ddoethion, a Seres ei wraig, a ddywedasant wrtho, Os o had yr Iddewon y mae Mordecai, yr hwn y dechreuaist syrthio o'i flaen, ni orchfygi mohono, ond gan syrthio y syrthi o'i flaen ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna aeth i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth ei wraig a'i ffrindiau i gyd. A dyma'r cynghorwyr a'i wraig Seresh yn ymateb, “Mae ar ben arnat ti os mai Iddew ydy'r Mordecai yma wyt ti wedi dechrau syrthio o'i flaen, does gen ti ddim gobaith!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrth ei wraig Seres a'i holl gyfeillion am y cyfan a ddigwyddodd iddo. Ac meddai ei wu375?r doeth a'i wraig Seres wrtho, "Os yw Mordecai, yr wyt yn dechrau cwympo o'i flaen, yn Iddew, ni orchfygi di mohono; ond yr wyt ti'n sicr o gael dy drechu ganddo ef."