Esther 6:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y cafwyd yn ysgrifenedig yr hyn a fynegasai Mordecai am Bigthana a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, o'r rhai oedd yn cadw y trothwy; sef y rhai a geisiasent estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma nhw'n dod at y cofnod fod Mordecai wedi rhoi gwybod am y cynllwyn i ladd y brenin Ahasferus, gan y ddau was oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, sef Bigthan a Teresh.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ynddo cofnodwyd yr hyn a ddywedodd Mordecai am Bigthana a Theres, dau eunuch y brenin oedd yn gofalu am y porth ac oedd wedi cynllwyn i ymosod ar y brenin.