Esther 6:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd y brenin, Pa anrhydedd neu fawredd a wnaed i Mordecai am hyn? A gweision y brenin, sef ei weinidogion ef, a ddywedasant, Ni wnaed dim erddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r brenin yn gofyn, “Beth gafodd ei wneud i anrhydeddu Mordecai am beth wnaeth e?” A dyma gweision y brenin yn ateb, “Dim byd o gwbl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd y brenin, "Pa glod ac anrhydedd a gafodd Mordecai am hyn?" Atebodd y llanciau oedd yn gweini ar y brenin nad oedd wedi derbyn dim.