Esther 6:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhodder y wisg, a'r march, yn llaw un o dywysogion ardderchocaf y brenin, a gwisgant am y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu, a pharant iddo farchogaeth ar y march trwy heol y ddinas, a chyhoeddant o'i flaen ef, Fel hyn y gwneir i'r gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylai un o brif swyddogion y brenin gymryd y fantell a'r ceffyl ac arwisgo'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu, ei roi i farchogaeth ar y ceffyl, a'i arwain drwy sgwâr y ddinas. A dylid cyhoeddi o'i flaen, ‘Dyma sy'n cael ei wneud i'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhodder y wisg a'r ceffyl i un o dywysogion pwysicaf y brenin, a gwisged yntau'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu, a'i arwain trwy sgwr y ddinas ar gefn y ceffyl, a chyhoeddi o'i flaen fel hyn: 'Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu.'"