Esther 7:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd y brenin wrth Esther drachefn yr ail ddydd, wrth gyfeddach y gwin, Beth yw dy ddymuniad, Esther y frenhines? ac fe a roddir i ti; a pha beth yw dy ddeisyfiad? gofyn hyd yn hanner y deyrnas, ac fe a'i cwblheir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
am yr ail waith. Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Y Frenhines Esther. Gofynna am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Beth fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud i ti? Gofyn am gymaint a hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ar yr ail ddiwrnod, tra oeddent yn yfed gwin, dywedodd y brenin unwaith eto wrth Esther, "Frenhines Esther, beth yw dy ddymuniad? Fe'i cei. Beth bynnag a geisi, hyd hanner fy nheyrnas, fe'i cei."