Esther 8:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy y rhai y caniataodd y brenin i'r Iddewon, y rhai oedd ym mhob dinas, ymgynnull, a sefyll am eu heinioes, i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha holl allu y bobl a'r dalaith a osodai arnynt, yn blant ac yn wragedd, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd y brenin ganiatád i'r Iddewon ddod at ei gilydd i amddiffyn eu hunain. Roedden nhw'n cael lladd a dinistrio milwyr unrhyw dalaith oedd yn ymosod arnyn nhw, lladd eu gwragedd a'u plant, a cymryd eu heiddo oddi arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ynddynt rhoddodd y brenin hawl i'r Iddewon oedd ym mhob dinas i ymgasglu a'u hamddiffyn eu hunain, ac i ddifa, lladd a dinistrio byddin unrhyw genedl neu dalaith a ymosodai arnynt, a'u plant a'u gwragedd, ac ysbeilio'u heiddo.