Esther 8:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ym mhob talaith, ac ym mhob dinas, lle y daeth gair y brenin a'i orchymyn, yr oedd llawenydd a hyfrydwch gan yr Iddewon, gwledd hefyd a diwrnod daionus: a llawer o bobl y wlad a aethant yn Iddewon; oblegid arswyd yr Iddewon a syrthiasai arnynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y taleithiau a'r trefi i gyd lle roedd gorchymyn y brenin wedi ei gyhoeddi, roedd yr Iddewon wedi cymryd gwyliau i ddathlu a gwledda. Ac roedd llawer o bobl eraill yn honni eu bod wedi troi'n Iddewon, am fod ganddyn nhw gymaint o ofn beth fyddai'r Iddewon yn ei wneud iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ym mhob talaith a dinas lle daeth gair a gorchymyn y brenin, yr oedd yr Iddewon yn gwledda ac yn cadw gu373?yl yn llawen a hapus. Ac yr oedd llawer o bobl y wlad yn honni mai Iddewon oeddent, am fod arnynt ofn yr Iddewon.