Esther 8:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Esther a lefarodd drachefn gerbron y brenin, ac a syrthiodd wrth ei draed ef; wylodd hefyd, ac ymbiliodd ag ef am fwrw ymaith ddrygioni Haman yr Agagiad, a'i fwriad yr hwn a fwriadasai efe yn erbyn yr Iddewon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Esther yn mynd i siarad â'r brenin eto. Syrthiodd wrth ei draed yn crïo, a crefu am drugaredd. Roedd ganddi eisiau iddo wrthdroi cynllun drwg Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Unwaith eto apeliodd Esther at y brenin a syrthio wrth ei draed. Wylodd ac erfyn arno rwystro'r drygioni a gynllwynodd Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon.