Esther 9:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhan arall o'r Iddewon, y rhai oedd yn nhaleithiau y brenin a ymgasglasant, ac a safasant am eu heinioes, ac a gawsant lonyddwch gan eu gelynion, ac a laddasant bymtheng mil a thrigain o'u caseion: ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[16-17] Roedd gweddill Iddewon y taleithiau wedi dod at ei gilydd y diwrnod cynt i amddiffyn eu hunain, a cawson nhw lonydd gan eu gelynion. Roedden nhw wedi lladd saith deg pum mil o elynion i gyd, ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw. A'r diwrnod wedyn, ar y pedwerydd ar ddeg o fis Adar, cawson nhw orffwys. Cafodd y diwrnod hwnnw ei wneud yn ddydd Gŵyl, i ddathlu a chynnal partïon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr Iddewon yn nhaleithiau'r brenin wedi ymuno i'w hamddiffyn eu hunain, er mwyn cael llonydd gan eu gelynion; yr oeddent wedi lladd saith deg a phump o filoedd o'u caseion, ond heb gyffwrdd 'r ysbail.