Esther 9:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr Iddewon, y rhai oedd yn Susan, a ymgynullasant ar y trydydd dydd ar ddeg ohono, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono; ac ar y pymthegfed ohono y gorffwysasant, a gwnaethant ef yn ddydd cyfeddach a llawenydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd Iddewon yn Shwshan wedi dod at ei gilydd i ymladd ar y trydydd ar ddeg a'r pedwerydd ar ddeg, felly dyma nhw'n gorffwys ar y pymthegfed, a gwneud hwnnw yn ddydd Gŵyl i ddathlu a chynnal partïon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Iddewon Susan wedi ymgasglu ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis, a'r pedwerydd ar ddeg, ac wedi peidio ar y pymthegfed dydd; felly cadwasant hwy hwnnw yn ddydd o wledd a llawenydd.