Esther 9:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iddewon a ymgynullasant yn eu dinasoedd, trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, i estyn llaw yn erbyn y rhai oedd yn ceisio niwed iddynt: ac ni safodd neb yn eu hwynebau; canys eu harswyd a syrthiasai ar yr holl bobloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r Iddewon yn casglu at ei gilydd yn y trefi drwy'r holl daleithiau roedd y Brenin Ahasferus yn eu rheoli. Roedden nhw'n barod i ymosod ar unrhyw un oedd yn bwriadu gwneud drwg iddyn nhw. Ond roedd ofn yr Iddewon wedi gafael yn y bobl i gyd, a doedd neb yn gallu sefyll yn eu herbyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Unodd yr Iddewon yn eu dinasoedd ym mhob un o daleithiau'r Brenin Ahasferus i ymosod ar y rhai oedd yn ceisio'u niweidio. Ni wrthwynebodd neb hwy, oherwydd yr oedd ar yr holl bobl eu hofn.