Exodus 1:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo, Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r bydwragedd yn ateb, “Dydy'r gwragedd Hebreig ddim yr un fath â gwragedd yr Aifft — maen nhw'n gryfion, ac mae'r plant yn cael eu geni cyn i ni gyrraedd yno!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedasant hwythau wrth Pharo, "Nid yw gwragedd yr Hebreaid yn debyg i wragedd yr Eifftiaid, oherwydd y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn i'r fydwraig gyrraedd."