Exodus 10:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a estynnodd ei wialen ar dir yr Aifft: a'r ARGLWYDD a ddug ddwyreinwynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nos honno; a phan ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Moses yn estyn ei ffon dros wlad yr Aifft. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i wynt o'r dwyrain chwythu drwy'r dydd a'r nos. Erbyn iddi wawrio y bore wedyn roedd y gwynt wedi dod â'r locustiaid i'r wlad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly estynnodd Moses ei wialen dros wlad yr Aifft, ac achosodd yr ARGLWYDD i'r dwyreinwynt chwythu ar y wlad trwy gydol y diwrnod hwnnw a thrwy'r nos; erbyn y bore yr oedd y dwyreinwynt wedi dod 'r locustiaid.