Exodus 10:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r locustiaid a aethant i fyny dros holl wlad yr Aifft, ac a arosasant ym mhob ardal i'r Aifft: blin iawn oeddynt; ni bu'r fath locustiaid o'u blaen hwynt, ac ar eu hôl ni bydd y cyffelyb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n mynd drwy'r wlad i gyd, o un pen i'r llall. Fuodd yna erioed bla tebyg o locustiaid, a fydd yna ddim un tebyg byth eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y locustiaid i fyny dros yr holl wlad a disgyn ym mhob ardal yn yr Aifft. Ni welwyd y fath bla trwm o locustiaid erioed o'r blaen, ac ni welir ei debyg eto.