Exodus 10:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys toesant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw dros bobman! Roedd y ddaear yn ddu gan locustiaid, a dyma nhw'n difetha pob planhigyn a phob ffrwyth ar bob coeden oedd yn dal yna wedi'r cenllysg. Doedd yna ddim planhigyn na deilen werdd ar ôl drwy wlad yr Aifft i gyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn gorchuddio wyneb y tir nes bod y wlad i gyd yn ddu, ac yr oeddent yn bwyta holl lysiau'r ddaear a holl ffrwythau'r coed oedd wedi eu gadael ar l y cenllysg; nid oedd dim gwyrdd ar l ar y coed na'r planhigion trwy holl wlad yr Aifft.