Exodus 10:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Pharo wrtho, Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai'r Pharo, “Dos o ngolwg i! Dw i byth eisiau dy weld di yma eto! Os gwela i di eto, bydda i'n dy ladd di!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Pharo wrtho, "Dos ymaith oddi wrthyf, a gofala na fyddi'n gweld fy wyneb eto, oherwydd ar y dydd y byddi'n fy ngweld, byddi farw."