Exodus 10:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Moses ac Aaron yn mynd at y Pharo a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, yn ei ddweud: ‘Am faint wyt ti'n mynd i wrthod plygu i mi? Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth Moses ac Aaron at Pharo a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Am ba hyd yr wyt am wrthod ymostwng o'm blaen? Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli.