Exodus 10:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gweision Pharo a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr ARGLWYDD eu DUW: Oni wyddost ti eto ddifetha'r Aifft?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma swyddogion y Pharo yn dweud wrtho, “Am faint mae hyn i fynd ymlaen? Gad iddyn nhw fynd i addoli'r ARGLWYDD eu Duw. Wyt ti ddim yn gweld y bydd hi ar ben ar y wlad yma?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd gweision Pharo wrtho, "Am ba hyd y mae'r dyn hwn yn mynd i fod yn fagl inni? Gollwng y bobl yn rhydd, er mwyn iddynt addoli'r ARGLWYDD eu Duw; onid wyt ti eto'n deall bod yr Aifft wedi ei difetha?"