Exodus 11:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Un pla eto a ddygaf ar Pharo, ac ar yr Aifft; wedi hynny efe a'ch gollwng chwi oddi yma: pan y'ch gollyngo, gan wthio efe a'ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i daro'r Pharo a gwlad yr Aifft un tro olaf. Bydd e'n eich gollwng chi'n rhydd wedyn, heb unrhyw amodau. Yn wir, bydd e'n eich gyrru chi allan o'r wlad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Yr wyf am ddwyn un pla arall ar Pharo ac ar yr Aifft; ar l hynny, bydd yn eich gollwng yn rhydd; a phan fydd yn eich rhyddhau, bydd yn eich gyrru oddi yma'n llwyr.