Exodus 11:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a roddodd i'r bobl ffafr yng ngolwg yr Eifftiaid: ac yr oedd Moses yn ŵr mawr iawn yng ngwlad yr Aifft, yng ngolwg gweision Pharo, ac yng ngolwg y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r Eifftiaid fod yn hael at bobl Israel. Roedd Moses ei hun yn cael ei ystyried yn ddyn pwysig iawn yn yr Aifft. Roedd gan swyddogion y Pharo a'r bobl gyffredin barch mawr ato.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth yr ARGLWYDD i'r bobl gael ffafr gan yr Eifftiaid. Yr oedd Moses yn ddyn pwysig iawn yng ngwlad yr Aifft, yng ngolwg gweision Pharo ac yng ngolwg y bobl.