Exodus 11:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft a fydd marw, o gyntaf‐anedig Pharo, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrngadair, hyd gyntaf‐anedig y wasanaethferch sydd ar ôl y felin; a phob cyntaf‐anedig o anifail.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a bydd pob mab hynaf drwy'r wlad yn marw — o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r gaethferch sy'n troi y felin law, a hyd yn oed pob anifail gwryw oedd y cyntaf i gael ei eni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a bydd farw pob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntafanedig Pharo, sy'n eistedd ar ei orsedd, hyd gyntafanedig y forwyn sydd wrth y felin, a chyntafanedig pob anifail hefyd.