Exodus 12:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Saith niwrnod y bwytewch fara croyw; y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o'ch tai: oherwydd pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd o'r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo. Ar y diwrnod cyntaf rhaid cael gwared ag unrhyw beth yn y tŷ sydd â burum ynddo. Yn ystod y saith diwrnod yna, bydd unrhyw un sydd yn bwyta bara wedi ei wneud gyda burum yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am saith diwrnod yr ydych i fwyta bara croyw; ar y dydd cyntaf bwriwch y surdoes allan o'ch tai, oherwydd bydd pwy bynnag sy'n bwyta bara lefeinllyd o'r dydd cyntaf hyd y seithfed yn cael ei ddiarddel o Israel.