Exodus 12:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynulleidfa Israel, yn gystal y dieithr a'r priodor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim burum i fod yn eich tai o gwbl am saith diwrnod. Os bydd unrhyw un (un o bobl Israel neu rywun o'r tu allan) yn bwyta rhywbeth wedi ei wneud gyda burum, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am saith diwrnod nid ydych i gadw surdoes yn eich tai, oherwydd bydd pwy bynnag sy'n bwyta bara lefeinllyd yn cael ei ddiarddel o gynulleidfa Israel, boed yn estron neu'n frodor.