Exodus 12:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedwch, Aberth Pasg yr ARGLWYDD ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aifft, pan drawodd efe yr Eifftiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymodd y bobl, ac yr addolasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dwedwch wrthyn nhw, ‘Aberth y Pasg i'r ARGLWYDD ydy e, i gofio sut wnaeth e basio heibio tai pobl Israel ac achub ein teuluoedd pan wnaeth e daro gwlad yr Aifft.’” A dyma'r bobl oedd yn gwrando ar Moses yn plygu i lawr yn isel i addoli.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yr ydych i ateb, 'Aberth Pasg yr ARGLWYDD ydyw, oherwydd pan drawodd ef yr Eifftiaid, aeth heibio i dai'r Israeliaid oedd yn yr Aifft a'u harbed.'" Ymgrymodd y bobl mewn addoliad.