Exodus 12:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar hanner nos y trawodd yr ARGLWYDD bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf‐anedig Pharo yr hwn a eisteddai ar ei frenhinfainc, hyd gyntaf‐anedig y gaethes oedd yn y carchardy; a phob cyntaf‐anedig i anifail.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna digwyddodd y peth! Ganol nos y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn taro meibion hynaf yr Eifftiaid, o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r carcharor yn ei gell, a hyd yn oed pob anifail oedd y cyntaf i gael ei eni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar hanner nos trawodd yr ARGLWYDD bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntafanedig Pharo ar ei orsedd hyd gyntafanedig y carcharor yn ei gell, a chyntafanedig yr anifeiliaid hefyd.