Exodus 12:35 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Israel a wnaethant yn ôl gair Moses; ac a fenthyciasant gan yr Eifftiaid dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac roedden nhw wedi gwneud beth ddwedodd Moses wrthyn nhw hefyd — roedden nhw wedi gofyn i'r Eifftiaid am bethau o aur ac arian, ac am ddillad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn a ddywedodd Moses wrthynt, a gofyn i'r Eifftiaid am dlysau arian a thlysau aur a dillad;