Exodus 12:36 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a roddasai i'r bobl hawddgarwch yng ngolwg yr Eifftiaid, fel yr echwynasant iddynt: a hwy a ysbeiliasant yr Eifftiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r Eifftiaid roi anrhegion i bobl Israel. Roedden nhw'n cael beth bynnag oedden nhw'n gofyn amdano. Dyma nhw'n cymryd popeth oddi ar bobl yr Aifft!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
am i'r ARGLWYDD beri i'r Eifftiaid edrych arnynt ffafr, gadawsant i'r Israeliaid gael yr hyn yr oeddent yn gofyn amdano. Felly yr ysbeiliwyd yr Eifftiaid.