Exodus 12:39 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a bobasant y toes a ddygasant allan o'r Aifft yn deisennau croyw; oherwydd yr oedd heb ei lefeinio: canys gwthiasid hwynt o'r Aifft, ac ni allasant aros, ac ni pharatoesent iddynt eu hun luniaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n gwneud bara i'w fwyta o'r toes wnaethon nhw ei gario o'r Aifft — bara heb furum ynddo. Roedden nhw wedi cael eu gyrru allan o'r Aifft ar gymaint o frys, doedd dim amser i baratoi bwyd cyn mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn rhaid iddynt bobi'r toes yr oeddent wedi ei gario o'r Aifft yn deisennau croyw am nad oedd wedi ei lefeinio, oherwydd cawsant eu gyrru allan o'r Aifft heb gyfle i oedi nac i baratoi bwyd iddynt eu hunain.