Exodus 12:42 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nos yw hon i'w chadw i'r ARGLWYDD, ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aifft: nos yr ARGLWYDD yw hon, i holl feibion Israel i'w chadw trwy eu hoesoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ARGLWYDD wedi cadw'r noson yma'n arbennig i'w harwain nhw allan o wlad yr Aifft. Felly, o hyn ymlaen, ar y noson yma, mae pobl Israel i gyd i fod i gadw gwylnos i'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am i'r ARGLWYDD y noson honno gadw gwyliadwriaeth i'w dwyn allan o'r Aifft, bydd holl blant Israel ar y noson hon yn cadw gwyliadwriaeth i'r ARGLWYDD dros y cenedlaethau.