Exodus 12:48 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan arhoso dieithr gyda thi, ac ewyllysio cadw Pasg i'r ARGLWYDD, enwaeder ei holl wrywiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededig ohono.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os ydy mewnfudwyr eisiau dathlu Pasg yr ARGLWYDD, rhaid i'r dynion a'r bechgyn fynd trwy ddefod enwaediad gyntaf. Wedyn byddan nhw'n gallu cymryd rhan — byddan nhw'n cael eu hystyried fel un o'ch pobl chi. Ond does neb sydd heb gael ei enwaedu i gael bwyta o'r Pasg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw dieithryn sy'n byw gyda thi yn dymuno cadw Pasg i'r ARGLWYDD, caiff wneud hynny ar yr amod fod pob gwryw sydd gydag ef yn cael ei enwaedu; fe fydd, felly, fel brodor.