Exodus 13:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oedd anodd gan Pharo ein gollwng ni, y lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf‐anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i'r ARGLWYDD bob gwryw a agoro y groth; ond pob cyntaf‐anedig o'm meibion a brynaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y Pharo yn gwrthod ein gollwng ni'n rhydd, felly dyma'r ARGLWYDD yn lladd pob mab hynaf a phob anifail gwryw oedd gyntaf i gael ei eni. Dyna pam dŷn ni'n aberthu pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni i'r ARGLWYDD. Ond dŷn ni'n prynu'n ôl pob mab sydd y cyntaf i gael ei eni.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd pan wrthododd Pharo ein gollwng yn rhydd, lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntafanedig, yn ddyn ac anifail, yng ngwlad yr Aifft. Dyna pam yr wyf yn aberthu i'r ARGLWYDD bob gwryw cyntafanedig, ond yn cyfnewid pob cyntafanedig o blith fy meibion.'