Exodus 13:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ollyngodd Pharo y bobl, nid arweiniodd yr ARGLWYDD hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd DUW, Rhag i'r bobl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan wnaeth y Pharo adael i'r bobl fynd, wnaeth Duw ddim eu harwain nhw i wlad y Philistiaid, er mai dyna fyddai'r ffordd gyntaf. Doedd gan Dduw ddim eisiau i'r bobl newid eu meddyliau a mynd yn ôl i'r Aifft pan oedd y Philistiaid yn bygwth rhyfela yn eu herbyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ollyngodd Pharo y bobl yn rhydd, nid arweiniodd Duw hwy ar hyd ffordd gwlad y Philistiaid, er bod honno'n agos. "Oherwydd," meddai, "gallai'r bobl newid eu meddwl pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft."