Exodus 13:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mynega i'th fab y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Oherwydd yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD i mi pan ddeuthum allan o'r Aifft, y gwneir hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dych chi i esbonio i'ch plant, ‘Dŷn ni'n gwneud hyn i gofio beth wnaeth yr ARGLWYDD droson ni pan ddaethon ni allan o'r Aifft.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y dydd hwnnw, fe ddywedir wrth dy blentyn, 'Gwneir hyn oherwydd y peth a wnaeth yr ARGLWYDD i mi pan ddeuthum allan o'r Aifft.'