Exodus 14:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr ARGLWYDD, yr hwn a wna efe i chwi heddiw; oblegid yr Eifftiaid y rhai a welsoch chwi heddiw, ni chewch eu gweled byth ond hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Peidiwch bod ag ofn! Arhoswch chi, a cewch weld sut bydd yr ARGLWYDD yn eich achub chi. Fyddwch chi ddim yn gweld yr Eifftiaid acw byth eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Moses wrth y bobl, "Peidiwch ag ofni; byddwch gadarn ac edrychwch ar y waredigaeth y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chwi heddiw, oherwydd ni fyddwch yn gweld yr Eifftiaid a welsoch heddiw byth mwy.