Exodus 14:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a galedaf galon Pharo, fel yr erlidio ar eu hôl hwynt: felly y'm gogoneddir ar Pharo, a'i holl fyddin; a'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD. Ac felly y gwnaethant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n gwneud y Pharo yn ystyfnig unwaith eto, a bydd yn dod ar eich holau. Ond bydda i'n cael fy anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin, a bydd pobl yr Aifft yn dod i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD.” Felly dyma bobl Israel yn gwneud beth ddwedodd Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, byddaf fi'n caledu ei galon, a bydd ef yn eu herlid; felly, fe enillaf ogoniant i mi fy hun ar draul Pharo a'i holl fyddin, a chaiff yr Eifftiaid wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD." Gwnaeth yr Israeliaid fel y gorchmynnwyd iddynt.