Exodus 14:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mynegwyd i frenin yr Aifft, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharo a'i weision yn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o'n gwasanaethu?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi dianc, dyma fe a'i swyddogion yn newid eu meddyliau, “Beth oedd ar ein pennau ni?” medden nhw, “Dŷn ni wedi gadael i'n caethweision fynd yn rhydd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi ffoi, newidiodd agwedd Pharo a'i weision tuag atynt, ac meddent, "Beth yw hyn a wnaethom? Yr ydym wedi rhyddhau'r Israeliaid o'n gwasanaeth!"