Exodus 15:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedodd, Os gan wrando y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i'w orchmynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o'r clefydau a roddais ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD dy iachawdwr di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os byddwch chi'n ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e, gwrando ar beth mae'n ei ddweud a chadw at ei reolau, fydd dim rhaid i chi ddiodde'r afiechydon wnes i daro'r Eifftiaid gyda nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich iacháu chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud, "Os gwrandewi'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, a gwneud yr hyn sy'n iawn yn ei olwg, gan wrando ar ei orchmynion a chadw ei holl ddeddfau, ni rof arnat yr un o'r clefydau a rois ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n dy iachu."