Exodus 16:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr ARGLWYDD; Yfory y mae gorffwysfa Saboth sanctaidd i'r ARGLWYDD: pobwch heddiw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a'r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n ateb, “Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD: ‘Rhaid i chi beidio gweithio yfory, mae'n Saboth wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD. Beth bynnag ydych chi am ei bobi neu ei ferwi, gwnewch hynny heddiw. Wedyn cadw beth bynnag sydd dros ben at yfory.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau wrthynt, "Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 'Bydd yfory yn ddydd o orffwys, ac yn Saboth wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD.' Felly pobwch yr hyn y bydd ei angen arnoch, a berwi'r hyn y bydd arnoch ei eisiau; yna rhowch o'r neilltu bopeth sydd yn weddill, a chadwch ef hyd y bore."