Exodus 16:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD; Llanw omer ohono, i'w gadw i'ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y'ch dygais allan o wlad yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Moses yn rhoi'r gorchymyn yma gan yr ARGLWYDD iddyn nhw: “Cadwch ddau chwart ohono i'w gadw am byth, er mwyn i bobl yn y dyfodol gael gweld y bwyd wnes i ei roi i chi yn yr anialwch, pan ddes i â chi allan o wlad yr Aifft.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Moses, "Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 'Llanwer omer ohono i'w gadw ar gyfer y cenedlaethau a ddaw, er mwyn iddynt weld y bara a rois i chwi i'w fwyta yn yr anialwch pan ddygais chwi allan o wlad yr Aifft.'"