Exodus 16:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, mi a lawiaf arnoch fara o'r nefoedd: a'r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnânt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i wneud i fara ddisgyn o'r awyr fel glaw arnoch chi. Bydd rhaid i'r bobl fynd allan i gasglu yr hyn sydd ei angen arnyn nhw bob dydd. Bydda i'n eu profi nhw i weld os gwnân nhw wrando ar beth dw i'n ddweud ai peidio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Byddaf yn glawio arnoch fara o'r nefoedd, a bydd y bobl yn mynd allan a chasglu bob dydd ddogn diwrnod, er mwyn i mi eu profi a gweld a ydynt am ddilyn fy nghyfraith ai peidio.